Aelodau
I'r Aelodau
Mae ein gwasanaeth yn cynnig system sy’n dryloyw ac mor syml â phosib. Mae Llaeth Cymreig yn gwybod fod ffermwyr ddim angen tariffau a systemau taliadau cymhleth.
Ein nod yw sicrhau fod yr aelodau yn deall y drefn er mwyn gallu cynllunio i’r dyfodol. Am fod ein adroddiadau llaeth a’r taliadau yn syml, mae’r ffermwr yn gallu canolbwyntio ar gynhyrchu’r llaeth.
Rydym ni’n talu’n seiliedig ar safon yn hytrach na fformiwla sy’n anodd ei ddeall neu systemau taliadau cymhleth.
Yn gyfeillgar i’r ffermwr ac yn barod i helpu – ry’n ni ar gael i siarad ac yn gallu cynnig arweiniad a chefnogaeth cyfrinachol.
Ry’n ni’n chwilio am y dulliau gweithio gorau, a pharodrwydd i addasu i heriau'r dyfodol. Ni’n gweithio i’r ffermwyr llaeth, fel gall y ffermwyr wneud beth maen nhw’n ei wneud orau - cynhyrchu llaeth lleol Cymreig o safon uchel.
Buddsoddi mewn Pobl
Mae John Jones yn ffermwr llaeth ger Nantgaredig yn Sir Gâr. Yn aelod o gwmni Llaeth Cymreig, mae’n adnabyddus i nifer o’r ardal fel contractwr amaethyddol. Mae mab John yn gweithio gyda fe ar y fferm.
Mae Llaeth Cymreig am sicrhau dyfodol i ffermwyr llaeth a’u teuluoedd yng Ngorllewin Cymru.
Ry’n ni’n deall ffermwyr llaeth am ein bod ni’n ffermwyr llaeth.
Os hoffech wybod mwy cysylltwch gyda ni.
|