Hanes y Cwmni
Yn hytrach nag anelu am dwf cyflym mae Llaeth Cymreig yn canolbwyntio ar sicrhau parhad a chynaladwyaeth y cwmni er lles yr aelodau. Yr hyn sy’n bwysig i ni yw gwireddu gofynion y ffermwyr rydym ni’n eu cynrychioli.
Mae hynny’n golygu y bydd angen i unrhyw ddarpar aelod newydd o gwmni Llaeth Cymreig gyd-fynd gyda meddylfryd cynaliadwy'r cwmni. Ni’n gweithio er lles y ffermwyr, ac ar gyfer dyfodol cynhyrchwyr llaeth lleol Cymreig.

Mae Llaeth Cymreig yn cyflogi gyrwyr lleol ar gyfer ein tancyrs llaeth. Ni’n cynnig gwasanaeth cludiant a throsglwyddo dibynadwy a chystadleuol, yn buddsoddi yn ein cludiant, a thechnoleg trosglwyddo llaeth cyflym ac effeithlon.
Fel cyswllt lleol i’r cwmnïau llaeth, rydym yn arbed costau ac yn lleihau llygredd cludiant.
Ni’n gweithio i safon uchel o effeithlonrwydd a chynaladwyaeth - ein nod yw cael y llaeth i’r farchnad am y pris gorau sydd ar gael i’r ffermwr.
Mae’r arbedion yma’n mynd yn ôl i’r ffermwr - yn buddsoddi yn nyfodol ein cynhyrchwyr llaeth lleol.
|