Llaeth Cymreig – Na Beth Ni'n Neud!
Y ffermwyr sy’n cynhyrchu ein llaeth yw perchnogion cwmni Llaeth Cymreig. Fel cwmni cydweithredol, mae’r cwmni wedi canolbwyntio ar dwf cyfrifol, gan weithio i wella effeithlonrwydd ein darpariaeth a sicrhau mwy o elw i’r ffermwr llaeth.
Teuluoedd sy’n rhedeg nifer o’n ffermydd ni, ac mae cynaladwyaeth y diwydiant cynnyrch llaeth lleol yn y dyfodol yn brif ystyriaeth i ni.
Ni’n casglu’r llaeth o’r ffermydd yn ein tancyrs, ac yn cydweithio gyda chyflenwyr a chludwyr, i sicrhau system dosbarthu effeithlon i laeth Cymraeg iachus. Caiff y llaeth ei ddosbarthu i gwmnïau llaeth a chwmnïau prosesu llaeth lleol a chenedlaethol.
Mae ein llaeth a hufen yn cael ei ddosbarthu trwy Orllewin Cymru gan hufenfeydd lleol.

Mae ein gwartheg yn pori bryniau a chaeau Gorllewin Cymru.
Cyfaill i'r Fferm Deuluol
Gwasanaeth dibynadwy gyda meddylfryd teuluol - dyna sydd wrth wraidd cwmni Llaeth Cymreig. Mae ein cwsmeriaid llaeth a hufen angen gwasanaeth dibynadwy a chystadleuol. Beth ni’n ei wneud yw cydlynu rhwng y ffarmwr a’r cwsmer llaeth, yn sicrhau fod ein mudiad ffermwyr cydweithredol yn derbyn y pris gorau i’r cynnyrch i bob un o’n ffermwyr ni.
Rydym ni bob tro yn barod i glywed gan gwsmeriaid newydd sydd am gael llaeth ffres Cymreig o ffermydd Cymreig lleol.
Os ydych chi’n ffermwr llaeth yn y tair sir a hoffech wybod mwy am ymuno gyda ni, cysylltwch gyda ni.
|