Ein Cwsmeriaid Llaeth
Mae ein Llaeth Cymreig yn mynd i gwmnïau prosesu mawr a bach, gan gynnwys cawsiau lleol sy’n ennill gwobrau.
Aiff cynnyrch Llaeth Cymreig i gwmnïau prosesu lleol a chenedlaethol, i’w werthu ar ffurf hylifol neu i’r diwydiant llaeth ehangach.
Mae hufenfa leol yn potelu a dosbarthu ein llaeth lleol ffres trwy Orllewin Cymru, ac rydym ni’n falch iawn i weithio gyda chwmnïau prosesu bwyd lleol.

Ni’n deall fod gwahanol ofynion gan wahanol gwsmeriaid. Ni’n gweithio gyda’n cwsmeriaid llaeth i gynnal gwasanaeth a chynnyrch o safon uchel.
Ni’n cynnig gwasanaeth cyfeillgar a phersonol, ac yn cynnal perthynas weithiol dda gyda chwsmeriaid llaeth. Rydym ni’n darparu cyflenwad effeithlon a phroffesiynol o laeth, yn manteisio ar y dechnoleg ddiweddaraf, ac yn cadw ein gorbenion yn isel.
Rydym ni bob amser yn barod i gyfarfod darpar gwsmeriaid newydd ar gyfer ein Llaeth Cymreig ffres lleol.
Cysylltwch gyda ni i weld pa mor gystadleuol mae ein prisiau ni.
|